Preswylwyr Blaenau Gwent yn rhannu eu pryderon gyda'r Prif Gwnstabl

10fed Medi 2026

Cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf gyda Phrif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod y materion sy'n effeithio ar gymunedau ym Mlaenau Gwent.

Mae Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus y Comisiynydd yn rhoi llwyfan i Gomisiynydd Mudd dynnu sylw at brif bryderon cymunedau ledled Gwent a'u dwyn nhw'n uniongyrchol i sylw'r Prif Gwnstabl.

Recordiwyd y fforwm diweddaraf yn adeilad eiconig Sefydliad y Glowyr, Llanhiledd ac roedd yn cynnwys cwestiynau am feicio oddi ar y ffordd ym Mrynmawr, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nhredegar, a dwyn yn Abertyleri. Gellir gweld y fforwm ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn ffordd bwysig i breswylwyr ofyn cwestiynau a lleisio pryderon yn uniongyrchol gyda'r Prif Gwnstabl.

"Trwy gael sgyrsiau agored, gonest a thryloyw, gallwn sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed a bod cymunedau'n chwarae rhan ystyrlon yn llywio plismona ledled Gwent."