Hawl i Holi Ieuenctid 2023

3ydd Tachwedd 2022

Roeddwn wrth fy modd i gwrdd â phobl ifanc o fforymau ieuenctid ledled Gwent i drafod eu cynlluniau ar gyfer Hawl i Holi Ieuenctid y flwyddyn nesaf.

 

Mae Hawl i Holi Ieuenctid yn rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau i mi, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, a phanel o bobl o amryw o sefydliadau am y materion sy'n bwysig iddyn nhw.

 

Arweiniodd y sesiwn, a gafodd ei drefnu gan fy swyddfa, at gyfres o drafodaethau i ysgogi meddwl am lawer o faterion gan gynnwys plismona yng Ngwent, yr argyfwng costau byw a sut bydd yn effeithio ar fynediad pobl ifanc at wasanaethau, ac effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc.

 

Bydd y themâu mae'r grŵp wedi eu nodi'n cael eu rhannu gyda phobl ifanc o bob rhan o Went mewn arolwg ar-lein, er mwyn ceisio deall yn well beth sy'n bwysig i bobl ifanc. Bydd canlyniadau'r arolwg yn dylanwadu ar aelodau'r panel ar gyfer y digwyddiad.

 

Edrychaf ymlaen at fynd i'r digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 15 Mawrth 2023.