Gŵyl Lles Coleg Gwent

6ed Ebrill 2022

Roedd yn bleser bod yn bresennol yng ngŵyl lles Coleg Gwent ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy yr wythnos hon.

 

Roedd y digwyddiad yn un o dair gŵyl lles sydd wedi cael eu cynnal ym mharthau dysgu Coleg Gwent yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwyf yn falch bod fy nhîm wedi bod yn bresennol ym mhob un ohonynt.   

 

Roedd y digwyddiadau yn gyfle i’r tîm ymgysylltu â mwy na 400 o bobl ifanc, gan godi ymwybyddiaeth o broblemau fel trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sbeicio diodydd a seiberddiogelwch.

 

Rhoddwyd amrywiaeth eang o eitemau diogelwch cymunedol i’r bobl ifanc gan gynnwys caeadau i atal sbeicio diodydd, pinnau uwchfioled i farcio eitemau gwerthfawr, a gwybodaeth a chyngor ar gyfer Byw Heb Ofn, y llinell gymorth 24/7 sy’n rhoi cymorth i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.

 

Mae siarad, gwrando a gwneud cysylltiad gyda phobl ifanc mor bwysig er mwyn deall beth sydd o bwys iddynt. Mae fy swyddfa wedi ymroi i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol. 

 

Ewch i wefan Byw Heb Ofn i gael rhagor o wybodaeth: https://gov.wales/live-fear-free