Gwrando ar ein cymunedau
Mae fy nhîm a minnau wedi treulio haf prysur a boddhaus yn ymweld â chymunedau ledled Gwent i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Ers mis Mehefin, rydym wedi ymweld â phob un o bum sir Gwent. Rydym wedi bod yn bresennol mewn dros 20 o ddigwyddiadau lleol ac wedi siarad â miloedd o breswylwyr am y problemau sydd o bwys iddyn nhw.
Mae preswylwyr wedi rhannu eu barn am blismona yn eu cymunedau ac am broblemau yn cynnwys cyllideb yr heddlu a niweidiau ar-lein. Cawsom gyfle hefyd i gyfeirio pobl at bartneriaid allweddol a gwasanaethau cefnogi, gan roi pwyslais ar gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched. Mae'r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda phreswylwyr yn y digwyddiadau hyn yn sicrhau ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan bobl o bob oedran a chefndir, ac yn sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i lywio'r gwaith rydym yn ei wneud.
Rwyf yn falch hefyd i fod wedi gallu cynnig cyllid i grwpiau er mwyn iddyn nhw gynnal digwyddiadau a gweithgareddau gwych i deuluoedd. Mae wedi bod yn bleser pur gweld y gwahaniaeth maen nhw wedi ei wneud i bobl leol, yn dod â chymdogion at ei gilydd, creu cyfleoedd cadarnhaol a helpu cymunedau i deimlo'n fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig.
Mae fy Nghronfa Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi cyfle i grwpiau, elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau lleol eraill wneud cais am hyd at £5,000 i gefnogi eu prosiectau a digwyddiadau. Mae gan ein cymunedau'r pŵer i greu newid parhaus, a nhw sydd yn y lle gorau i arwain y newid hwnnw. Gyda'r cymorth iawn, mae grwpiau lleol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Dyna pam rwy'n falch i fuddsoddi yn y posibilrwydd yna ac i ddefnyddio arian sy'n cael ei adfeddiannu o weithgarwch troseddol i helpu i adeiladu cymdeithas decach a saffach.
Hoffwn annog unrhyw grŵp gyda syniad a allai fod o fudd i'w cymuned i ystyried gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/gronfa-ymgysylltu-cymunedol