Gwobrau Heddlu Gwent 2021

23ain Tachwedd 2022

Roeddwn yn falch iawn i gefnogi Gwobrau'r Llu blynyddol Heddlu Gwent yr wythnos hon.

Mae'r gwobrau yn cydnabod y swyddogion ac aelodau staff hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol ganddynt wrth gyflawni eu dyletswydd.

Eleni roeddwn yn falch i gyflwyno dwy wobr; Gwobr Cyfraniad Eithriadol i Wirfoddoli, a Gwobr Partneriaeth.

Aeth y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Wirfoddoli i Laura Lloyd, gwirfoddolwr staff yr heddlu am ei gwaith yn cefnogi tîm NxtGen Heddlu Gwent.

Dyma'r tîm sy'n gyfrifol am gadetiaid heddlu a Heddlu Bach Gwent. Yn ogystal â chefnogi gwaith ehangach y tîm, mae Laura wedi dechrau uned cadetiaid yn Ysgol Pen-y-cwm hefyd.

Aeth y Wobr Partneriaeth i Gwnstabl Heddlu Claire Drayton a Rhingyll Heddlu Clark Evans.

 

Mae Cwnstabl Drayton wedi gweithio'n ddiflino gyda phartneriaid i wella ansawdd bywyd trigolion mewn ardaloedd yng Nghasnewydd trwy leihau lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae Rhingyll Evans wedi arwain y cynllun Strydoedd Saffach yn Rhymni, gan sicrhau dros £280,000 gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ymgyrchoedd sy'n lleihau trosedd yn y gymdogaeth.

Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent yn gweithio'n ddiwyd o dan bwysau aruthrol ac amgylchiadau anodd iawn. Yn aml, mae hyn yn golygu rhoi eu hunain mewn perygl personol ac ymdrin â sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn gorfod dod ar eu traws yn ystod eu bywydau, a diolch am hynny.

Ar ran trigolion Gwent, hoffwn dalu teyrnged i bob swyddog ac aelod o staff am bopeth maen nhw'n ei wneud bob dydd i gadw ein cymunedau'n ddiogel.