Amser ar ôl i ddweud eich dweud ar blismona yng Ngwent
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn i drigolion am eu barn ar blismona.
Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, sef y ddogfen strategol y mae'n rhaid i bob Comisiynydd Heddlu a Throsedd ei llunio i nodi'r blaenoriaethau ar gyfer eu cyfnod yn y swydd.
I ddweud eich dweud cyn i'r arolwg ddod i ben ar 29 Medi ewch i https://bit.ly/GwentPCP2024
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Ers i mi gael fy ethol ym mis Mai rwyf wedi bod yn brysur yn ymweld â chymunedau ledled Gwent ac yn siarad â chymaint o drigolion â phosibl am eu barn ar blismona. Mae'r sgyrsiau hyn yn werthfawr iawn ac yn fy helpu i lunio fy mlaenoriaethau am y pedair blynedd nesaf.
“Os nad ydych chi wedi gwneud hyn eisoes, cymerwch yr amser i gwblhau'r arolwg, dweud eich dweud, a fy helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."
I ddweud eich dweud ewch i https://bit.ly/GwentPCP2024
Mae fformatau eraill yr arolwg ar gael ar gais gan swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy e-bostio commissioner@gwent.police.uk neu ffonio 01633 642200.