Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddol Torfaen

24ain Hydref 2022

Roeddwn wrth fy modd i noddi Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddol Torfaen eleni.

 

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y cyfraniad anhygoel mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud yn ein cymunedau trwy gydol 2022.

 

Roeddwn yn falch o noddi gwobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn - Oedolion', a gafodd ei ddyfarnu i Vicki Randall, sylfaenydd Clwb Pêl-rwyd Cwmbrân.

 

Sefydlwyd Clwb Pêl-rwyd Cwmbrân gan Vicki 11 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi tyfu o ran maint a statws.

Dechreuodd y clwb gyda dim ond 5 o chwaraewyr, ond diolch i angerdd a phenderfyniad Vicki i ddarparu chwaraeon ar gyfer menywod a merched, mae 350 o aelodau'n perthyn i'r clwb erbyn hyn. 

 

Mae chwaraeon yn unigryw yn y ffordd y mae'n gallu dwyn pobl o bob oedran, gallu a chefndir at ei gilydd, ac mae Vicki wedi cyflawni hyn trwy ei hymroddiad anhunanol i roi o'i hamser i bobl eraill wrth gydbwyso bywyd teuluol a gyrfa yn y maes addysg.

 

Rwyf wrth fy modd bod Vicki wedi helpu chwaraewyr ifanc i ddilyn ei chamre i ddod yn hyfforddwyr cymwys yn y clwb.

 

Mae grymuso pobl ifanc i ddod yn hyfforddwyr ifanc ac i osod esiampl i eraill yn y clwb yn ffordd wych o ddatblygu'r clwb a chreu etifeddiaeth. 

 

Hoffwn ddiolch i Vicki am bopeth mae hi wedi ei wneud i chwaraeon, menywod a merched yn Nhorfaen a dymunaf bob hwyl iddi ar gyfer y dyfodol.