Gwasanaeth Chwarae Torfaen

1af Mawrth 2022

Dathlu gwaith Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Aeth fy nhîm i ddigwyddiad gwobrau gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae Torfaen yr wythnos yma.

Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith anhygoel gwirfoddolwyr ifanc sy’n cynnig cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc mewn clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Mae’r tîm yn rhoi mynediad i blant a phobl ifanc ag anableddau at ddarpariaeth chwarae gymunedol hefyd.

Mae chwarae’n rhan annatod o dyfu i fyny, ac mae’n helpu plant i ddysgu sgiliau cymdeithasol a moesol. Mae rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael chwarae a chymdeithasu mewn mannau diogel yn gallu helpu i’w hatal rhag dod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Mae ymrwymiad ac ymroddiad y gwirfoddolwyr ifanc i’w ganmol, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cael gwobr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Torfaen neu ffoniwch 01495 742951   https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/ChildrenandYoungPeople/PlayService/TorfaenPlayService/Play-Service.aspx