Dirprwy Weinidog yn canmol gwasanaeth sy'n trawsnewid bywydau menywod sy'n troseddu

17eg Rhagfyr 2020

Mae'r Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt AS, wedi canmol gwaith y fenter Braenaru i Fenywod, sy'n helpu menywod yn y system cyfiawnder troseddol yn ne Cymru i adeiladu bywydau gwell sy'n rhydd rhag trosedd.

Mae dull system gyfan y rhaglen Braenaru i Fenywod yn darparu ymyrraeth gynnar a chymorth i droseddwyr benywaidd. Mae'n rhoi cymorth iddynt ar faterion megis camddefnyddio alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a gwella perthnasoedd teuluol.

Ei nod yw lleihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol, lleihau ail droseddu a helpu menywod i fyw bywydau mwy diogel ac iach.

Ymunodd y Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt, ag ymweliad rhithiol â dalfa Ystrad Mynach, sy'n un o'r llefydd y gall menywod gael eu hatgyfeirio ohono at y gwasanaeth, a chlywodd am brofiadau personol rhai o'r menywod sydd wedi derbyn cymorth.

Dywedodd Jane Hutt: “Mae cadw menywod a phobl ifanc rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth amlwg i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gweithio'n galed yn ein meysydd datganoledig o ddylanwad o fewn trosedd a chyfiawnder. Rydym yn ariannu nifer o fentrau i hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol ac i roi sylw i anghenion y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Mae dull system gyfan y rhaglen Braenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 yn enghraifft wych o hyn. Roedd yr ymweliad rhithiol hwn yn gyfle gwerthfawr i glywed gan bobl sydd wedi cael cymorth gan y rhaglen."

Lansiwyd y gwasanaeth ym mis Hydref 2019 a chaiff ei gomisiynu ar y cyd gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu Gwent a De Cymru, Llywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru. Caiff ei ddarparu gan Future 4 Consortium, sef G4S, Cymru Ddiogelach, Include a Llamau.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas MBE: "Roeddwn yn falch i groesawu'r Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt, i ymweliad rhithiol â dull system gyfan y rhaglen Braenaru i Fenywod. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, y mae angen taer amdano, ac mae'n cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar fenywod i newid eu bywydau.

“Mae'r gwasanaeth yn enghraifft wych o gydweithio effeithiol rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn lleihau troseddu a helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael:

"Mae angen i'r dull fod yn un sy'n gofyn i fenyw pan gaiff ei thynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf beth yw ei hamgylchiadau a pham mae'r ymddygiad troseddol wedi digwydd. Os nad ydych yn deall yr ymddygiad, mae'n llawer rhy hawdd i'r system fod yn annheg ac aneffeithlon - ond, mewn cyferbyniad, os ydych yn deall y cefndir mae'n aml yn bosibl ymdrin â'r ymddygiad a newid bywyd yr unigolyn dan sylw.

"Trwy ddefnyddio'r dull system gyfan hwn, mae'r rhaglen Braenaru i Fenywod yn gwella canlyniadau trwy ymyrraeth gynnar a gweithredu prydlon a chadarnhaol, yn trefnu ymyraethau angenrheidiol i gefnogi newid parhaus a datblygu cadernid. Ar yr un pryd, mae'r rhaglen yn arbed costau ariannol sylweddol i blismona gan fod pob £1 sy'n cael ei wario ar y cynllun yn golygu arbediad o £2.35."

Mae staff cefnogi'n gweithio'n agos gyda'r heddlu yn y dalfeydd i sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig i fenywod mor gynnar â phosibl.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Rydym yn hynod o falch i fod yn rhan o'r cydweithio hwn sydd â'r potensial i wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau menywod bregus. Yn aml mae ymddygiad troseddol yn digwydd oherwydd ffactorau eraill ac mae ymyrryd yn gynnar yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r menywod hyn, ac yn helpu i leihau effaith eu gweithredoedd ar ein cymunedau."