Cyfleusterau newydd i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig i roi tystiolaeth

30ain Mawrth 2022

Mae proses sy’n caniatáu i ddioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig allu rhoi tystiolaeth drwy gyfleusterau cyswllt fideo wedi’i lansio ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £400,000 mewn 13 cyfleuster newydd ledled Cymru i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi i roi tystiolaeth mewn achosion sy’n ymwneud â thrais rhywiol a cham-drin domestig.

Mae’n cynnwys cyfleusterau newydd i breswylwyr Gwent yng Nghasnewydd.

Meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hust: “Mae trais a cham-drin rhywiol yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Dim ond os ydyn ni’n sicrhau bod dioddefwyr y troseddau yma’n teimlo’n ddigon diogel i ddod ymlaen a rhoi’r dystiolaeth a fydd yn galluogi cyfiawnder, a dal y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif, y gallwn ni ddechrau taclo’r broblem yma.

“Y cyfleusterau newydd yma yw’r cyntaf o’u math yng ngwledydd Prydain. Rwy’n falch ein bod ni’n arwain y ffordd yma yng Nghymru, gan barhau â’n hymrwymiad i gynnig cefnogaeth i’n dioddefwyr a’n goroeswyr pryd bynnag, lle bynnag, a sut bynnag mae ei hangen arnyn nhw.”

Bydd y cyfleusterau newydd yn galluogi tystion sy’n agored i niwed neu sy’n cael eu bygwth i gael eu llais wedi’i glywed mewn ffordd sy’n lleihau’r ofn, y straen a’r pryder sy’n aml yn gysylltiedig â rhoi tystiolaeth mewn llys agored.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “I rai dioddefwyr, mae gorfod rhoi manylion personol a gofidus yn y llys yn gallu bod yn rhwystr sylweddol rhag adrodd am eu camdriniaeth.

“Gobeithio y bydd y cyfleusterau newydd yma’n tynnu rhywfaint o’r ofn a’r pryder sy’n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth, gan sicrhau bod dioddefwyr cam-drin yng Ngwent yn gallu rhoi tystiolaeth mewn amgylchedd cefnogol a diogel.”

Cafodd un dioddefwr ei cham-drin yn gorfforol gan ei phartner am dros ugain mlynedd, a hi oedd un o’r bobl gyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd.

Meddai: “Roeddwn i wedi dychryn gan y syniad o orfod wynebu fy nghamdriniwr yn y llys, ac er fy mod i eisiau cyfiawnder, dw i ddim yn meddwl y byswn i wedi gallu gwneud hyn wyneb yn wyneb.

“Drwy allu rhoi fy nhystiolaeth mewn lle diogel, ymhell o ystafell y llys a gyda chefnogaeth ymgynghorydd cam-drin domestig annibynnol, magais yr hyder i roi fy nhystiolaeth a chael cyfiawnder am y blynyddoedd lawer o niwed rydw i wedi’i ddioddef.”

Meddai Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird QC: “I lawer o ddioddefwyr, mae’r syniad o fynd i’r llys ac wynebu eu camdrinwyr yn gallu peri llawer o ofid a’u hatal rhag dod ymlaen, ac felly yn hytrach, maen nhw’n dioddef yn dawel.

“Mae sicrhau bod gan bob dioddefwr yng Nghymru fynediad at gyfleusterau cyswllt fideo yn gam arloesol ac arwyddocaol a fydd yn helpu i wella profiad y dioddefwr o’r system cyfiawnder troseddol ac annog mwy o ddioddefwyr i ddod ymlaen. Er bod cyfleusterau tebyg i’w cael yn Lloegr, dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio’n ddigonol, felly gobeithio y bydd y buddsoddiad yma gan Lywodraeth Cymru yn annog yr agenda yma yn gyffredinol.”