Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu arweinwyr etholedig i Bencadlys yr Heddlu

15fed Mehefin 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu aelodau newydd i'r Senedd, aelodau a gafodd eu hail ethol, ac arweinwyr awdurdodau lleol i Bencadlys Heddlu Gwent yn rhan o'i gwaith ymgysylltu parhaus gyda chynrychiolwyr etholedig Cymru.

Cafodd y Comisiynydd gwmni Prif Gwnstabl Mark Hobrough hefyd, a gyflwynodd sesiwn wybodaeth fanwl i'r aelodau ar blismona ledled pum ardal awdurdod lleol Gwent. Roedd y sesiwn yn cynnwys y galw presennol ar wasanaethau, blaenoriaethau gweithredol allweddol, a'r heriau i blismona ledled y wlad.

Cafodd aelodau eu tywys o gwmpas ystafell reoli'r heddlu hefyd, sy'n ymdrin â galwadau 999 ac adroddiadau difrys. Roedd yr ymweliad yn rhoi cyfle iddynt weld yn uniongyrchol sut mae swyddogion a staff yn gweithio i gadw cymunedau'n ddiogel ac ymateb i ddigwyddiadau yn gyflym ac effeithiol.

Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Jane Mudd: "Roedd yn bleser cwrdd ag Aelodau'r Senedd Gwent a chael y cyfle i roi gwybodaeth drylwyr iddyn nhw ar y darlun plismona presennol ledled y rhanbarth. Mae trafodaethau agored a gonest fel hyn yn hollbwysig i sicrhau bod ein cynrychiolwyr etholedig yn deall y pwysau ar blismona a'r gwaith sy'n cael ei wneud i amddiffyn ein cymunedau.

"Mae fy nhîm a mi yn gweithio'n agos iawn gyda chynrychiolwyr etholedig Cymru a'u timau, ac mae'n bwysig, ni waeth pa blaid maen nhw'n ei chynrychioli, ein bod yn parhau i gydweithio'n adeiladol er budd pennaf y bobl rydym yn eu gwasanaethu."