Arweinyddiaeth feiddgar ac uchelgeisiol i fodloni galw newidiol ein cymunedau

9fed Gorffennaf 2021

Yr wythnos hon roeddwn yn falch iawn o weld Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Heddlu Gwent yn ymuno i lansio rhaglen arweinyddiaeth ar y cyd gyda'r nod o ddatblygu cenhedlaeth newydd o arweinyddion beiddgar ac arloesol   i wella'r gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd ledled Gwent.

Lansiwyd y fenter, o'r enw 'FiNi', ddydd Mercher 7 Gorffennaf gan Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Roeddwn yn falch iawn i fod yn un o'r siaradwyr yn y lansiad.

Crëwyd FiNi gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Christina Harrhy a Phrif Gwnstabl Pam Kelly. Mae gan bob un ohonom uchelgais cyffredin i ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau bod gan uwch-reolwyr y sgiliau a'r cymwyseddau gorau posibl.

Bydd wyth cyflogai o'r ddau sefydliad yn llunio'r garfan gyntaf erioed i gymryd rhan yn y rhaglen - pedwar o Gyngor Caerffili a phedwar o Heddlu Gwent.

Ein gobaith yw y bydd y fenter hon yn cael ei chodi gan bob awdurdod lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Gwent.