Cyllideb 2022-23
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2022-23
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2022-23 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2022-23 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2022-23 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-25; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £156,103,774 ar gyfer 2022-23;
- Arbedion arfaethedig o £1.021 miliwn yn 2022-23 ac arbedion arfaethedig pellach o £3.108 miliwn (cyfanswm o £4.329m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2021/22 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £68,144,822 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £303.80) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
6,342,390 |
20,876.86 |
Caerffili |
18,550,851 |
61,062.71 |
Sir Fynwy |
14,391,857 |
47,372.80 |
Casnewydd |
18,485,844 |
60,848.73 |
Torfaen |
10,373,880 |
34,147.07 |
Cyfanswm |
68,144,822 |
224,308.17 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
202.53 |
B |
236.29 |
C |
270.04 |
D |
303.80 |
E |
371.31 |
F |
438.82 |
G |
506.33 |
H |
607.60 |
I |
708.87 |
Adroddiadau (Saesneg yn unig)
Adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd
Atodiad
Atodiadau
Feto praesept – adroddiad cyntaf
Feto praesept – ail adroddiad