Cyllideb 2019-20
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2019/20
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2019/20 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2019/20 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2019/20 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £130,355,726 ar gyfer 2019/20;
- Arbedion arfaethedig o £0.791 miliwn yn 2019/20 ac arbedion arfaethedig pellach o £1.137 miliwn (cyfanswm o £1.928 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 6)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 7a a 7b; a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2019/20 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £56,042,426 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £255.53) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
5,158,425 |
20,187.16 |
Caerffili |
15,378,807 |
60,183.96 |
Sir Fynwy |
11,778,980 |
46,096.27 |
Casnewydd |
15,118,686 |
59,165.99 |
Torfaen |
8,607,528 |
33,685.00 |
Cyfanswm |
56,042,426 |
219,318.38 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
170.35 |
B |
198.75 |
C |
227.14 |
D |
255.53 |
E |
312.31 |
F |
369.10 |
G |
425.88 |
H |
511.06 |
I |
596.24 |
Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu
- Response to Police and Crime Commissioner regarding the Proposed Precept for 2019/20 (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Response to Police and Crime Panel Precept Recommendation 2019/20 (Saesneg yn unig)
- Decision Log Approving the Budget for 2019/20 (Saesneg yn unig)