Cyllideb 2018-19
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2018/19
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2018/19 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2018/19 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2018/19 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £123,522,220 ar gyfer 2018/19
- Arbedion arfaethedig o £0.183 miliwn yn 2018/19 ac arbedion arfaethedig pellach o £5.865 miliwn (cyfanswm o £6.048 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 4b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 5)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 6a a 6b; a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2018/19 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £52,035,431 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £238.84) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
4,819,779 |
20,179.95 |
Caerffili |
14,317,027 |
59,944.01 |
Sir Fynwy |
10,959,854 |
45,887.85 |
Casnewydd |
13,963,903 |
58,465.51 |
Torfaen |
7,974,868 |
33,390.00 |
Cyfanswm |
52,035,431 |
|
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
|
A |
159.23 |
B |
185.76 |
C |
212.30 |
D |
238.84 |
E |
291.92 |
F |
344.99 |
G |
398.07 |
H |
477.68 |
I |
557.29 |
Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu
Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Response to Police and Crime Panel Precept Recommendation 2018/19 (Saesneg yn unig)
Decision Log Approving the Budget for 2018/19 (Saesneg yn unig)