Yr Iaith Gymraeg
Daeth Mesur yr Iaith Gymraeg i rym 9 Chwefror 2011 a sefydlodd safle Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r Mesur hefyd yn cyflwyno safonau’n ymwneud â'r iaith Gymraeg a fydd yn cymryd lle cynlluniau iaith Gymraeg ar hyn o bryd.
Cafodd y Rhybudd Cydymffurfio ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throsedduar gyfer Gwent a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2016. Mae'r ddogfen hon yn darparu'r safonau y mae'n ofynnol Swyddfa'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i weithredu ar draws y sefydliad.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a Heddlu Gwent wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gyflawni ein busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae sut y byddwn yn defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn seiliedig ar:
- y Gymraeg a'r Saesneg yn meddu ar statws cyfartal;
- ein nod i wella'r ddarpariaeth gwasanaeth i'r cyhoedd yn eu dewis iaith.
Bydd Strategaeth y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi i gefnogi gweithrediad y safonau ar waith.
Gweithdrefn ar gyfer Cwynion yn ymwneud â Chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg
Adroddiad Blynyddol - Monitro Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg
Bob blwyddyn bydd Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cyhoeddi adroddiad ar berfformiad y Swyddfa o dan Safonau’r Gymraeg (safonau 155, 161 a 167). Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi o fewn chwe mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.
Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23
Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-22
Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-21
Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-20
Adroddiad Monitro Blynyddol 2018-19