Stopio a Chwilio
Mae Stopio a Chwilio yn ddull plismona gwerthfawr sy'n helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae'n ddyletswydd ar bawb i helpu swyddogion heddlu i atal trosedd a dal troseddwyr; mae cydweithrediad y cyhoedd yn hollbwysig i sicrhau bod stopio a chwilio'n cael ei ddefnyddio'n gywir.
Mae'r heddlu'n gwybod bod cael eich chwilio yn anghyfleustra ac y dylid ei gyflawni mor gyflym â phosibl, ond er mwyn diogelwch y cyhoedd, rhaid i'r chwiliad fod yn drwyadl. Bydd yn helpu i gyflymu'r broses os ceisiwch chi fod yn ddigynnwrf a chydweithredu gyda'r swyddog.
Stopio a Chwilio - Eich Hawliau a Sut i Gwyno
Ceir rhagor o wybodaeth am Stopio a Chwilio ar wefan Heddlu Gwent.