Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Beth yw'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Mae'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol fel y Sbardun Cymunedol, yn rhoi'r hawl i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol ofyn am weithredu, gan ddechrau gydag adolygiad o'u hachos, lle mae meini prawf wedi eu bodloni ar gyfer yr adolygiad. Nod Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw ceisio datrysiad ar gyfer dioddefwyr a chymunedau.
Dylid defnyddio'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pan fydd pob cam arall wedi methu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydynt yn credu na chymerwyd camau gweithredu digonol i ymdrin â'r digwyddiadau a riportiwyd ganddynt.

Os bydd eich cais yn cael ei dderbyn, bydd eich achos yn cael ei ystyried gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr uwch o'r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr heddlu, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (darparwyr llety) ac eraill, fel y bo'n briodol.

Bydd y panel yn adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd hyd yn hyn gan yr asiantaethau perthnasol a gall wneud argymhellion ynghylch camau pellach y mae angen eu cymryd.
Nid yw'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn disodli'r gweithdrefnau cwyno mewnol ar gyfer pob sefydliad, a fydd ar gael o hyd i ymdrin ag unrhyw broblemau sydd gan y dioddefwr/achwynwr gydag asiantaeth unigol.


Pwy sy'n gallu gofyn am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

  • Dioddefwr ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Rhywun arall yn gweithredu ar ran y dioddefwr (e.e. aelod teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, Aelod Seneddol neu berson proffesiynol arall, gyda chydsyniad y dioddefwr)
  • Unigolyn yn gweithredu ar ran grŵp o drigolion neu grŵp cymuned

Rhoddir cymorth i'r dioddefwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol.


Sut gallaf ofyn am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Os ydych chi'n credu bod eich problem neu bryder yn berthnasol i'r broses Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dylech gysylltu â'ch Partneriaeth Diogelwch Cymunedol leol.

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen

Mae pob ardal leol yn pennu meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn defnyddio'r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae'r meini prawf hyn yn cynnwys amlder cwynion, effeithiolrwydd yr ymateb a'r niwed posibl i'r dioddefwr neu'r unigolyn sy'n cwyno ar ran y dioddefwr.

Bydd y meini prawf hyn yn unol â'r canllawiau cenedlaethol sydd ar gael yma: Anti-social behaviour case review - GOV.UK (www.gov.uk)


Sut gall y Comisiynydd Heddlu a Throseddu helpu?

Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn darparu llwybr ar eich cyfer os ydych eisiau holi a yw'r penderfyniad a wnaed gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn bodloni'r meini prawf neu os ydych yn anfodlon gyda'r ffordd y cafodd adolygiad achos ei gynnal.

Gweithdrefn Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

I ofyn am adolygiad o'r penderfyniad a wnaed gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol cysylltwch â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, neu'r pwynt cyswllt penodol ar gyfer eich adolygiad achos.