Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb yn ymwneud â chymdeithas fwy teg lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pawb yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial. Rhaid i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddangos sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau a chyflogi pobl.
Dyletswydd y Sector Cyhoeddus
Ym mis Hydref 2010, cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy'n gofyn i ni dalu sylw dyledus i'r angen am y canlynol pan fyddwn yn cyflawni ein swyddogaethau mewnol ac allanol:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig
- Meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig
Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb yn berthnasol i staff Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, ac aelodau ein cymunedau sy'n rhannu Nodweddion Gwarchodedig.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog
Heddlu Gwent Gwybodaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau plismona, ewch i wefan Heddlu Gwent.