Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2023-019
4 Ionawr 2024
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 30 Medi 2023.
PCCG-2023- 014
21 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i weithredu fel bancer o ran dyrannu cyllid rhwng Cyfiawnder Trosedd yng Nghymru (CJIW) a Clinks, a'r cyfraniad tuag at gostau Swyddog Datblygu i’r Rhwydwaith Ymgysylltu â'r Gymuned.
PCCG-2023-020
14 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi ystyried cymryd rhan mewn ymgyfreitha posibl yn erbyn cyflenwr am ddarparu cynhyrchion diffygiol.
PCCG-2023-015
12 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn Adroddiad y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer 2022/23.
PCCG-2023-017
7 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd â Heddlu Gwent i ddarparu ymyraethau trais difrifol a throseddau trefnedig yn ystod 2023/24.
PCCG-2023-009
6 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i gyfrannu cyllid o £3,750 tuag at Gynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du.
PCCG-2023-016
5 Rhagfyr 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i gyfrannu at Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2024/25.
PCCG-2023-013
24 Hydref 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd 11 Gorffenaff 2023 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed.
PCCG-2023-007a
24 Hydref 2023
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2023-006
23 Awst 2023
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro perfformiad ei swyddfa yn ystod 2022/23 mewn perthynas â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.