Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i bartneriaeth diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024

Reference Number: PCCG-2022-046

Date Added: Dydd Mawrth, 18 Ebrill 2023

Details:

Yn ystod 2020/2021 rhoddwyd trefniadau newydd ar waith ar 1 Gorffennaf 2020 i gefnogi diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid yng Ngwent. Mae cyllideb o £667,360 wedi cael ei phennu ar gyfer diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid yng Ngwent. O'r cyfanswm hwn, caiff £216,000 ei gadw ar gyfer partneriaethau nad ydynt yn awdurdod lleol, a chaiff y £451,360 sy'n weddill ei ddyrannu i awdurdodau lleol i gyfrannu at eu darpariaethau diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid.

Attachments: