Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi ystyried a chytuno ar yr opsiwn y mae am ei ddefnyddio mewn perthynas â’r newidiadau i'r Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu a gyflwynwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017.

Reference Number: PCCG-2019-067

Date Added: Dydd Llun, 25 Tachwedd 2019

Details:

Mae Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn cynnwys newidiadau i system cwynion yr heddlu lle mae comisiynwyr heddlu a throsedd yn cael cyfle i gymryd mwy o gyfrifoldeb yn y maes hwn. Roedd y Ddeddf yn rhoi tri opsiwn i gomisiynwyr heddlu a throsedd eu hystyried ac ar ôl adolygu'r opsiynau yn ofalus mae'r Comisiynydd wedi dewis yr opsiwn gorfodol, Model 1; sy'n rhoi trosolwg manylach iddo ar y system cwynion a chyfrifoldeb dros ymdrin ag apeliadau (adolygiadau).

Attachments: