Y Comisiynydd yn croesawu swyddogion newydd

8fed Hydref 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu'r garfan ddiweddaraf o recriwtiaid i ymuno â Heddlu Gwent.

Cyfarfu'r Comisiynydd â'r 48 swyddog newydd ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân yr wythnos hon wrth iddynt ddechrau eu hwythnos gyntaf o hyfforddiant swyddogol.

Bydd y swyddogion yn treulio sawl mis yn y dysgu yn y dosbarth a derbyn hyfforddiant ymarferol cyn cael eu hanfon i ymuno â thimau plismona ledled pum sir Gwent yn 2027.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae dewis gwasanaethu fel swyddog heddlu'n ymrwymiad sylweddol i'r cyhoedd ac i'n cymunedau.

"Gall y recriwtiaid newydd hyn fod yn falch o'r rhan bwysig maent yn paratoi i'w chwarae, yn cefnogi pobl, cryfhau cymunedau a helpu i gadw preswylwyr ledled Gwent yn ddiogel.

"Dymunaf y gorau i'r swyddogion gyda'u hyfforddiant ac edrychaf ymlaen at weld y cyfraniad cadarnhaol y byddant yn ei wneud i'n cymunedau ledled Gwent."