Y Comisiynydd yn cefnogi Pride Y Fenni
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd wedi cefnogi Pride Y Fenni wrth iddo ddathlu ei bedwerydd pen blwydd.
Ymgasglodd cannoedd o bobl yng Nghastell Y Fenni ar gyfer y digwyddiad, sy'n dathlu amrywiaeth, cynhwysiant a chymuned LHDTCRhA+ Gwent.
Daeth y digwyddiad â phreswylwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner at ei gilydd ar gyfer diwrnod o ddathliadau a chefnogaeth.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Pride Y Fenni yn ddathliad hyfryd o gymuned, cynhwysiant a'r rhyddid i fod yn chi eich hun. Roeddwn yn falch i gefnogi digwyddiad eleni ac i weld cymaint o bobl a sefydliadau'n uno mewn ffordd mor gadarnhaol.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa ni i gyd bod derbyn pobl, parch a dealltwriaeth yn gwbl hanfodol yn ein cymunedau. Mae Gwent yn dod yn fwyfwy amrywiol, ac mae'n hollbwysig bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynrychioli, a'u bod nhw'n ddiogel.
“Rwyf eisiau i Went fod yn lle y gall pobl fyw yn agored ac yn hyderus, yn rhydd rhag ofn neu niwed. Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i drefnu Pride Y Fenni ac i bawb a gyfrannodd at ei wneud yn ddigwyddiad mor groesawgar a dyrchafol."