Y Comisiynydd yn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer gwasanaeth negeseuon yr heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer gwasanaeth negeseuon ar-lein Heddlu Gwent, Materion Cymdogaeth.
Gwasanaeth negeseuon ac ymgysylltu cymunedol yw Materion Cymdogaeth. Mae'n rhad ac am ddim ac mae preswylwyr yn gallu ei ddefnyddio i dderbyn y newyddion lleol diweddaraf gan eu tîm plismona cymdogaeth.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfle i drigolion leisio eu barn am flaenoriaethau plismona lleol ac ymateb yn uniongyrchol i newyddion gan swyddogion.
Meddai Jane Mudd: “Mae preswylwyr yn dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod eisiau cael mwy o wybodaeth am beth sy'n digwydd yn eu hardal leol. Maen nhw hefyd eisiau gallu lleisio barn ar faterion lleol a rhoi gwybod am bethau sy'n eu pryderu nhw.
“Mae Materion Cymdogaeth yn galluogi preswylwyr i dderbyn newyddion rheolaidd a rhoi gwybod i'w tîm plismona lleol am bryderon. Mae'n annog cyfathrebu gwell rhwng cymunedau a'r heddlu ac mae'n ffordd effeithiol o gael y newyddion diweddaraf am broblemau sy'n effeithio ar yr ardal leol.”
I gofrestru, ewch i https://www.materioncymdogaethgwent.co.uk/