Wythnos y Lluoedd Arfog

22ain Mehefin 2026

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd i seremoni codi baner arbennig yn Neuadd y Sir Brynbuga i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog.

Aeth tîm y Comisiynydd i gefnogi digwyddiad yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd hefyd.

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn cydnabod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn yn ystod y cyfnod sy'n arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 27 Mehefin.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn anrhydedd ymuno â phartneriaid ar gyfer y seremoni hon i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog, ac roeddwn yn falch i sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau i gydnabod gwasanaeth, dewrder ac ymroddiad y rheini sy'n gwasanaethu ein gwlad.

"Diolch i'r drefn, ni fydd rhaid i'r rhan fwyaf ohonom ni fyth brofi'r erchyllterau a'r caledi mae'r dynion a menywod yn y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu, na'r aberthau maen nhw a'u hanwyliaid yn gorfod eu gwneud i helpu i'n cadw ni'n ddiogel.

“Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle pwysig i gymryd saib, myfyrio a dangos ein diolchgarwch i bawb sydd wedi gwasanaethu, sy'n parhau i wasanaethu, ac i'r teuluoedd sy'n eu cefnogi nhw.

"Ar fy rhan fy hun, a phobl Gwent yr wyf yn eu cynrychioli, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch chi am eich ymroddiad, eich dewrder a'r gwasanaeth pwysig rydych chi wedi'i roi i'ch gwlad.”