Wythnos Gwaith Ieuenctid

23ain Mehefin 2022

Mae’n Wythnos Gwaith Ieuenctid! Dyma gyfle i ddathlu gwaith anhygoel gweithwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid ledled Gwent.

 

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent:

 

“Mae’n fraint cael ariannu ystod eang o brosiectau ieuenctid sy’n helpu plant a phobl ifanc i fyw bywydau mwy diogel.

 

“Rwy’n gwybod yn rhy dda bod meithrin pobl ifanc yn dwyn ffrwyth ar gyfer y person ifanc a’r gymdeithas.

 

“Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i siapio bywydau pobl ifanc. Waeth pa mor fawr neu fach yw’r rhyngweithiad, rwy’n gwybod ei fod yn gadael argraff sy’n para.

 

“O chwarae pêl-droed mewn clwb ieuenctid, darparu cyfleoedd i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu fod yn wyneb cyfarwydd mewn sefyllfa frawychus, gweithwyr ieuenctid yw ein harwyr di-glod. 

 

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhoi amser i wrando, i annog, ac i gefnogi pobl ifanc; heb eich ymrwymiad chi, byddai rhai pobl ifanc mewn perygl o ddechrau ymwneud ag ymddygiad negyddol a all arwain at fywyd o droseddu.”

 

“Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu yn rhoi cyllid i sefydliadau helpu pobl ifanc i fyw bywydau diogel, iach a hapus. Rwy’n annog unrhyw grŵp a hoffai elwa ar y cyllid i fynd i fy ngwefan i gael rhagor o wybodaeth.”

 

Ewch i: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/cronfa-gymunedol-yr-heddlu/