Swyddogion yn graddio

14eg Gorffennaf 2023

Cefais y fraint o gael gwahoddiad i ymuno â 35 o fyfyrwyr-swyddogion, eu teuluoedd, a chynrychiolwyr o Heddlu Gwent ar gyfer eu seremoni graddio.

Nawr bod y swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant byddant yn gweithio gyda thimau plismona ledled pum sir Gwent.

Rwyf yn gwybod y bydd y swyddogion newydd yma’n ymdrechu i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu i sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.

Rwyf wedi ymroi i gynyddu nifer y swyddogion heddlu yng Ngwent ac rwyf yn falch i ddweud bod tua 350 yn fwy o swyddi swyddogion heddlu yn bodoli yn awr na phan gefais fy ethol gyntaf yn 2016.

Dymunaf bob hwyl i’r swyddogion hyn ar gyfer y dyfodol.