Swyddogion yn cefnogi digwyddiad VAWDASV

10fed Chwefror 2023

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn falch o weld swyddogion yn bresennol mewn gweithdy trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth o sut mae Heddlu Gwent yn mynd i’r afael â’r problemau hyn.  

 

Daeth y gweithdy ag ymarferwyr a staff at ei gilydd o sefydliadau sy'n cefnogi ac yn eiriol dros ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i’w helpu nhw i ehangu eu gwybodaeth am amrywiaeth o faterion. 

 

Siaradodd swyddogion Heddlu Gwent am sut maen nhw’n gweithio gyda'i gilydd a gyda phartneriaid i fynd i'r afael â’r problemau hyn, gan ddangos eu hymroddiad i sicrhau bod y rhai sydd yn y perygl mwyaf yn cael cymorth a bod y rhai sy’n cyflawni camdriniaeth yn cael eu herlyn.

 

Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r gweithdy a hoffwn atgoffa pobl sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol i geisio cymorth.

 

Mae trais yn digwydd ar sawl ffurf, boed yn gorfforol, rhywiol, ariannol, gwahaniaethol, sefydliadol, emosiynol neu drwy esgeuluso. Gallai’r tramgwyddwr fod yn berthynas, ffrind neu gymydog, aelod o staff neu rywun yn y gymuned.

 

I gael rhagor o wybodaeth am VAWDASV a’r cymorth sydd ar gael, ewch i www.gwentsafeguarding.org.uk/en/vawdasv