Swyddogion newydd yn dechrau ar eu gyrfa

30ain Mehefin 2022

Roeddwn wrth fy modd i groesawu 47 o swyddogion newydd Heddlu Gwent a'u teuluoedd i'w seremoni diwedd hyfforddiant yr wythnos hon. Bydd y swyddogion hyn yn cael eu defnyddio gan dimau plismona ledled Gwent yn awr.

Mae'r penderfyniad i ddilyn gyrfa ar reng flaen plismona yn un dewr. Rydym yn gwybod bod ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, a rhaid canmol ymrwymiad i yrfa sy'n cadw pobl yn ddiogel, er gwaethaf y peryglon posibl.  

Hoffwn ddiolch i'r swyddogion hyn am eu penderfyniad i ymuno â Heddlu Gwent a dymunaf bob hwyl iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.