Swyddogion dan Hyfforddiant wedi graddio
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu 38 o swyddogion heddlu newydd i Heddlu Gwent.
Mae'r swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn ymuno â thimau plismona ledled pum sir Gwent yn awr.
Maent yn rhan o ymrwymiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynyddu nifer y swyddogion heddlu yng Ngwent.
Meddai Jeff Cuthbert: "Wrth reswm, mae'r cyhoedd eisiau gweld mwy o heddlu ar y strydoedd ac rwyf yn falch bod mwy na 270 o swyddi newydd wedi cael eu creu ar gyfer swyddogion heddlu yng Ngwent ers i mi ddod yn Gomisiynydd am y tro cyntaf yn 2016.
“Mae’r recriwtiaid newydd hyn wedi gweithio’n galed yn ystod eu hyfforddiant, a dylid canmol eu gwaith caled a’u hymroddiad.
“Rwyf yn gwybod y bydd y swyddogion newydd hyn yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.