Swyddfa'r Comisiynydd yn craffu ar ddefnydd Taser gan swyddogion heddlu
Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi cynnal ei phanel chwarterol i archwilio defnydd grym gan Heddlu Gwent wrth gadw pobl dan amheuaeth yn y ddalfa a defnyddio Taser.
Mae panel craffu ar gyfreithlondeb y Comisiynydd yn dwyn ynghyd aelodau o swyddfa'r Comisiynydd, Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, uwch swyddogion yr heddlu, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Troseddu Ifanc i adolygu ffilmiau o gamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff.
Yn ystod y sesiwn, adolygodd y panel hapsampl o ffilmiau o ddigwyddiadau lle cafodd Taser ei ddefnyddio a gofynnwyd iddynt roi adborth ar bob achos. Nododd y panel rai mân bwyntiau i’w dysgu, a fydd yn cael eu cyfleu i swyddogion. Gwnaethon nhw hefyd ganmol swyddogion am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â sefyllfaoedd anodd a chymhleth iawn.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r panel yn rhoi haen annibynnol o graffu, gan dynnu sylw at enghreifftiau o arfer da yn ogystal â meysydd lle gallai fod angen dysgu pellach.
"Mae unrhyw gyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella yn cael eu rhannu ag uwch swyddogion, gan helpu i sicrhau bod prosesau'n cael eu cynnal mewn ffordd agored, onest a thryloyw.
"Mae'r gwaith hwn yn rhan o fy ymrwymiad parhaus i ddarparu goruchwyliaeth annibynnol, gan sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd o'r safon uchaf bosibl."
Gallwch weld adroddiadau o gyfarfodydd panel ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/tryloywder/eich-hawliau/stopio-a-chwilio/craffu-ar-stopio-a-chwilio/