Rhybudd i berchnogion cŵn

19eg Chwefror 2021

Gofynnir i berchnogion cŵn yng Ngwent fod yn arbennig o wyliadwrus yn dilyn cynnydd mewn achosion o ddwyn cŵn ledled y DU yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Rhybuddiodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu'n ddiweddar fod troseddwyr yn manteisio ar y galw am gŵn bach a'r cynnydd mewn prisiau ers i gyfyngiadau symud Coronafeirws gael eu rhoi ar waith.

Mae'r elusen DogLost yn dweud bod achosion o ddwyn cŵn wedi codi 170 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o 172 o gŵn yn 2019 i 465 o gŵn yn 2020.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae lladrad anifail anwes yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar berchnogion, yn arbennig ar yr adeg hon pan mae pobl wedi eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a'u teuluoedd.

“Er nad yw hon yn drosedd gyffredin, rydym yn gwybod ei bod yn digwydd yng Ngwent a gofynnaf yn daer ar berchnogion cŵn i fod yn ofalus, a chymryd mesurau diogelwch ychwanegol i leihau'r perygl eu bod yn cael eu dwyn.

"Hoffwn annog unrhyw un sy'n ystyried prynu ci i sicrhau eu bod yn gwneud hynny'n gyfreithlon hefyd."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu sy'n gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus ffonio Heddlu Gwent ar 101. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

Cyngor ar gyfer cadw eich anifail anwes yn ddiogel

  • Sicrhewch eich bod yn rhoi meicrosglodyn ar eich anifail anwes. Yn ôl y gyfraith, rhaid i gŵn yn y DU gael meicrosglodyn erbyn iddynt fod yn wyth wythnos oed.
  • Dylai eich ci wisgo coler a thab adnabod gyda'ch enw a'ch cyfeiriad chi arno. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol pan fydd eich ci mewn man cyhoeddus.
  • Peidiwch â gadael cŵn ar eu pennau eu hunain yn y stryd.
  • Peidiwch â'u gadael nhw ar eu pennau eu hunain mewn car.
  • Sicrhewch fod eich gardd yn ddiogel ac nad yw cŵn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain am gyfnodau hir.


Am ragor o gyngor, ewch i wefan Blue Cross.