Rhannwch eich barn am adeiladau'r heddlu

18fed Gorffennaf 2022

Gall trigolion rannu eu barn am adeiladau'r heddlu yng Ngwent.

Mae Strategaeth Ystâd Heddlu Gwent yn cael ei hadolygu i sicrhau bod adeiladau'r heddlu yn gynaliadwy, fforddiadwy ac yn addas at gyfer plismona modern.

Hoffai Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, a Heddlu Gwent, glywed barn trigolion i lywio'r adolygiad o'r Strategaeth Ystâd. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ddarparu gwasanaeth plismona sy'n canolbwyntio ar drigolion, wrth gefnogi gofynion plismona gweithredol a dangos gwerth am arian.

Cwblhewch yr arolwg

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, sy'n gyfrifol am ystâd Heddlu Gwent. Dywedodd: “Mae'r Prif Gwnstabl a mi yn adolygu ein Strategaeth Ystâd ar y Cyd i sicrhau bod adeiladau Heddlu Gwent yn addas i'r pwrpas o ddarparu gwasanaethau plismona modern.

"Bydd ein strategaeth ddiwygiedig yn rhoi amgylcheddau cynaliadwy, modern i Heddlu Gwent, lle gallant amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau. Yn rhan o'r gwaith hwn rydym eisiau clywed eich barn chi, a fydd yn ein helpu ni i lywio strategaeth fydd yn caniatáu i ni amddiffyn ein cymunedau'n well, gan sicrhau gwerth am arian i drigolion ar yr un pryd

Nod y Strategaeth Ystâd yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n gyson ledled Gwent, a rhoi'r hyblygrwydd i Heddlu Gwent esblygu i wynebu newidiadau sy'n dod i'r amlwg a newidiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys elfen o gydweithio ar lefel lleol a rhanbarthol a fydd yn creu model plismona modern, sy'n cael ei arwain gan alw.

Amcanion presennol y Strategaeth Ystâd yw sicrhau ystâd:

  • sy’n darparu gwasanaeth plismona sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion
  • sy’n cefnogi gofynion plismona gweithredol
  • sy’n dangos gwerth am arian; ac
  • sydd wedi cael ei chynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Cwblhewch yr arolwg

Darllenwch y Strategaeth Ystâd bresennol