Rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae’r genedl gyfan yn ceisio dod i dermau â’r realiti sy’n cael ei amlygu gan fenywod ledled y wlad yn dilyn llofruddiaeth honedig Sarah Everard yn Llundain.

Mae amgylchiadau erchyll ei diflaniad yn rhoi cyfle i ni fyfyrio. Mae angen i bob un ohonom edrych ar y cyfle hwn fel trobwynt i ddiogelwch menywod yn y DU ac yn siawns i ddechrau sgwrs ehangach ar sut y gallwn roi terfyn ar bob ffurf ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Wrth reswm, mae’r digwyddiad gofidus hwn wedi codi cwestiynau anochel am yr aflonyddu a cham-drin mae llawer o fenywod yn dod ar ei draws bob dydd oherwydd eu rhywedd. Fel llawer o bobl rwyf wedi darllen negeseuon di-rif am brofiadau menywod yn cerdded yn eu cymunedau ac am sut maen nhw’n cael eu gwneud i deimlo. Am y rhagofalon y mae’n rhaid iddynt eu cymryd. Am fesurau diogelwch maent wedi eu dilyn ers pan oeddent yn eu harddegau ac allan gyda’u ffrindiau.

Mae’n gwbl anghywir bod menywod yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn yn y Brydain fodern. 

Mae pob un ohonom wedi clywed teulu, ffrindiau a dieithriaid yn siarad am gerdded adref ar hyd llwybrau hirach, cario allweddi a bagiau er mwyn amddiffyn eu hunain, am ffonio pobl a siarad yn uchel am eu bod, fel menywod, yn teimlo eu bod yn agored i niwed. Mae cerdded ar y stryd yn weithred ddyddiol ond mae llawer o fenywod yn gorfod rhoi mesurau diogelwch eithriadol ar waith bob dydd i wneud hynny.

Ac mae’r gweithredoedd hyn yn gwbl ddealladwy, yn anffodus, gan mai dyma sy’n arferol i fenywod sydd wedi cael profiadau sydd wedi gwneud iddynt deimlo fel hyn. Mae menywod wedi gorfod dioddef sylw digroeso yn ddyddiol, boed hynny ar ffurf cael eu dilyn, eu cyffwrdd, cael ceir yn arafu pan fyddant yn agos atynt, neu sylwadau rhywiol.

Mae’n gwbl amlwg na ddylai menywod orfod profi pethau fel hyn yn y Brydain fodern. 

Mae angen i bob un ohonom edrych ar ein ffrindiau, teulu a chydweithwyr a dweud wrthynt nad yw’r bygythiad hwn a’r driniaeth hon o fenywod yn dderbyniol.

Rhaid dweud wrthynt na fydd byth yn dderbyniol.

Mae angen sgwrs genedlaethol i gyd-fynd â hyn ynghylch beth all dynion ei wneud i helpu menywod i gael gwared ar yr heriau hyn. Annog dynion i ofyn “sut ydw i’n ymddwyn a pha effaith mae’r ymddygiad yn ei gael ar bobl sydd o’m cwmpas?” Ac mae angen i ni roi cymorth i ddynion sy’n gwneud hyn i newid eu hagwedd a’u hymddygiad yn gadarnhaol.

Pan fyddwn yn clywed am neu’n gweld digwyddiadau o’r fath, ni allwn feio’r dioddefwr na chwilio am fwch dihangol; rhaid i ni roi’r gorau i wneud esgusodion dros ymddygiad gwael dynion tuag at fenywod. Nid oes unrhyw esgus na chyfiawnhad dros drais neu fygythion.

Y tramgwyddwr sy’n gyfrifol bob tro.

Mae angen i ni ganfod sut i atal yr ymddygiad hwn yn ddiwylliannol. Sut i drwytho ein plant mewn gwerthoedd cadarnhaol o oedran cynnar trwy eu haddysg, a gweithio i wella safbwyntiau cynhenid pobl sy’n hŷn. Sut i rymuso pobl eraill i godi eu llais pan fyddant yn gweld tramgwyddo. Sut i feithrin ysbryd cymunedol a synnwyr o gyfrifoldeb cyfunol tuag at les pobl eraill.

Nid yw cadw’n dawel yn opsiwn. Mae angen i ni godi ein llais. Pob un ohonom ni.

Mae angen i bob un ohonom sicrhau ei bod yn annerbyniol yn gymdeithasol i unrhyw un wneud i fenyw deimlo’n agored i niwed neu dan fygythiad. Mae angen i bob un ohonom herio ein ffrindiau, aelodau teulu a’n cydweithwyr pan fyddwn yn gweld neu’n clywed ymddygiad fel hwn. Dim ond trwy wneud hynny y gallwn sicrhau’r newid sydd ei angen.

Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i bawb ohonom fyfyrio ar y newidiadau sydd eu hangen, nid yn unig yn ein bywydau personol ond yn y gymdeithas ehangach. Ni ddylai rhywedd, nac unrhyw un arall o’r nodweddion gwarchodedig o ran hynny, fod yn rhwystr i unrhyw un yn y gwaith nac o ran addysg. Ac ni ddylent rwystro hawl unrhyw un i fodoli mewn cymdeithas a chyfrannu at y gymdeithas honno.

Serch hynny, yn y pen draw, mae hynny yn digwydd a rhaid i rywbeth newid.

Mae angen i ni addysgu dynion, pob dyn, am yr effaith mae eu gweithredoedd a’u geiriau’n gallu ei gael ar y menywod maent yn dod ar eu traws.

Achos mae’n hollol anghywir bod menywod yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn yn y Brydain fodern.

..........

Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.

Mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth sy'n ymdrin yn benodol â cham-drin a thrais rhywiol hefyd.

Mae Llwybrau Newydd yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol, a gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.

Gwefan: www.newpathways.org.uk
E-bost: enquiries@newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn darparu gwasanaethau cymorth ledled Gwent i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gwefan: https://cyfannol.org.uk/contact
Ffôn: 01495 742052

Mae Canolfan Dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth ac nid oes rhaid i chi fod wedi riportio trosedd i'r heddlu i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
E-bost: connectgwent@gwent.pnn.police.uk
Ffôn: 0300 123 2133