Prosiectau cymunedol ledled Gwent i elwa o gyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Bydd prosiectau cymunedol ledled Gwent yn elwa o fwy na £800,000 o gyllid a ddyrannwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ar gyfer 2026–27.
Mae cyfanswm o 16 o brosiectau wedi derbyn grantiau yn dilyn ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, tra bod 13 prosiect arall wedi derbyn cyllid yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Mae'r prosiectau'n cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac maent yn cael eu hariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian sy’n cael ei adfer o enillion troseddau. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae llawer o'r prosiectau hyn yn cefnogi plant a phobl ifanc, gan roi mannau diogel i fynd iddynt a gweithgareddau cadarnhaol i gymryd rhan ynddynt y tu allan i oriau ysgol. Mae eraill yn darparu cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi dioddef troseddau neu'n ceisio adeiladu pontydd rhwng cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus.
“Trwy gefnogi ein cymunedau yn y modd hwn, rydym yn cefnogi plismona rheng flaen ac yn helpu i leihau'r galw am swyddogion heddlu. Trwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, er enghraifft, rydym yn rhyddhau swyddogion i dreulio mwy o amser yn mynd i'r afael â bygythiadau sy'n peri risg ehangach i'n cymunedau, fel cam-drin domestig neu droseddau cyfundrefnol.
“Mae ein cymunedau yn aml yn gwybod beth sydd ei angen fwyaf i fynd i'r afael â'r problemau yn eu hardal, ond i ddatblygu prosiectau a mentrau mae angen y gefnogaeth gywir arnynt. Rwy'n falch o allu cefnogi ein cymunedau, gan ddefnyddio arian sydd wedi cael ei adfer o weithgarwch troseddol i helpu i greu cymdeithas decach a mwy diogel i bawb."
Mae'r prosiectau a ariennir ar gyfer 2026/27 yn cynnwys:
- Clwb Interact Brynmawr
- Tŷ Cymunedol
- Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
- Pobl yn Gyntaf Cwm Taf
- Cynefin Pamoja
- Cyswllt Cymunedol Dyffryn
- EYST
- Cwmni Buddiant Cymunedol Addysg Ffitrwydd y Lluoedd
- Hip Hop 12
- Kid Care 4 U
- Jame Masjid Canol Casnewydd
- Prosiect Peoples Prosperity
- SYDIC
- Canolfan TOGs
- Vitalize Radio
- Volunteering Matters