Prosiect Ieuenctid Pont-y-pŵl

17eg Mai 2023

Roeddwn yn falch i gael gwahoddiad i Brosiect Ieuenctid Pont-y-pŵl gan y bobl ifanc a ddaeth i'r digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid ym mis Mawrth.

Mi wnes i fwynhau siarad â'r grŵp am fy rôl a'r amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn fy swyddfa ac yn Heddlu Gwent.

Roeddwn wrth fy modd i glywed bod y bobl ifanc yn teimlo bod y clwb yn fan diogel.

Mae mannau diogel yn hollbwysig wrth ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mi wnes fwynhau gwrando ar y bobl ifanc yn dweud wrthyf am yr amrywiaeth eang o weithgareddau a sesiynau ymwybyddiaeth maen nhw wedi cymryd rhan ynddynt. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai gan Fearless a Street Doctors, dau sefydliad y mae fy swyddfa'n falch i'w cefnogi.

Roedd yn amlwg bod y staff yn y ganolfan yn gweithio'n galed i feithrin pobl ifanc a darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu dyheadau.

I gael mwy o wybodaeth am rolau gwirfoddoli yn fy swyddfa a Heddlu Gwent: https://www.gwent.pcc.police.uk/en/about-us/volunteers/