Prosiect Edward

1af Mehefin 2023

Yr wythnos ddiwethaf ymunodd fy nhîm â Heddlu Gwent ym Mhont-y-pŵl yn rhan o ymgyrch Prosiect Edward.

Mae EDWARD yn golygu ‘every day without a road death’. Ymunodd yr heddlu â chynghorau lleol, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y DVLA a'r DVSA i fynd i'r afael â gyrru peryglus ledled Gwent.

Roedd y canlyniadau'n cynnwys:

  • pum arést am yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau
  • tri arést am yrru'n beryglus neu yrru heb ofal dyladwy
  • atafaelu naw cerbyd am nad oedd ganddynt yswiriant neu drwydded
  • 25 atgyfeiriad treth
  • wyth trosedd llwyth anniogel
  • 102 adroddiad trosedd traffig am oryrru neu ddefnyddio ffôn symudol
  • 416 rhybudd o erlyniad bwriadedig am oryrru, defnyddio ffôn symudol, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch
  • dim gwrthdrawiadau traffig ffyrdd marwol.


Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r ymgyrch am eu gwaith caled yn ystod yr wythnos. 

Y gwir amdani yw y gellid osgoi bron i bob digwyddiad traffig sy'n arwain at anaf difrifol a marwolaeth.

Felly, cofiwch, peidiwch â goryrru, cadwch eich cerbyd mewn cyflwr da, peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru a helpwch ni i achub bywydau.