Pecynnau atal trosedd am ddim i drigolion Brynmawr
3ydd Ebrill 2023
Gall trigolion Brynmawr gasglu pecyn atal trosedd am ddim gan Heddlu Gwent yn ASDA dydd Mercher yma rhwng 10am a 2pm.
Bydd y tîm plismona cymdogaeth wrth law hefyd i siarad â thrigolion am y camau y gallan nhw eu cymryd i gadw eu cartrefi, eu ceir a’u heiddo yn ddiogel.
Mae’r pecynnau hyn yn cael eu hariannu gan ymgyrch Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref ac maen nhw’n cynnwys eitemau fel offer marcio eiddo, offer diogelu plât rhif cerbyd a larymau siediau. Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud i dderbyn un ar y diwrnod yw dangos prawf o’ch cyfeiriad.
Mwy o fanylion