Ni a’u cofiwn nhw

12fed Tachwedd 2023

Heddiw rydyn ni’n cofio am yr holl ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu, ac sy’n parhau i wasanaethu ein gwlad mewn rhyfeloedd ar draws y byd.

Roedd ein cymunedau’n gartref i lawer a fu farw yn y ddau ryfel mawr ac, yn anffodus, mewn nifer o ryfeloedd ers hynny. Mae llawer mwy wedi gweld eu ffrindiau a’u cyd-filwyr yn gwneud yr aberth eithaf dros ein rhyddid.

Mae’n ddyletswydd arnom ni, ar y diwrnod yma, i’w cofio nhw ac i ddiolch am eu haberth.

Hoffwn gymryd eiliad a diolch i’r cyn-filwyr hynny a’u teuluoedd, am y gwasanaeth pwysig maen nhw wedi ei roi, ac maen nhw’n parhau i’w roi, i’n gwlad. Ni a’u cofiwn nhw.