Mynd i'r afael ag achosion o ddwyn beiciau ledled Gwent

3ydd Chwefror 2023

Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent wedi bod yn brysur y mis yma, yn cynnal digwyddiadau i sicrhau bod pobl yn cofrestru eu beiciau ar gynllun cenedlaethol a fydd yn helpu i'w cadw nhw'n ddiogel.

Yn ystod mis Ionawr mae'r tîm wedi cofrestru dros 60 beic gyda Bike Register, cronfa ddata ar draws y DU sy'n galluogi heddluoedd ledled y wlad i chwilio am a chroesgyfeirio beiciau wedi'u dwyn. 

Mae ymgyrchoedd fel hyn yn helpu i darfu ar y gadwyn gyflenwi droseddol ac yn gwneud beiciau'n darged llai deniadol i ladron, ac o ganlyniad rydym wedi gweld cwymp yn nifer yr achosion o ddwyn beiciau yn y misoedd diwethaf.

Dyma un o'r ffyrdd mae'r tîm yn gweithio i gadw cymunedau Gwent yn ddiogel. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent.