Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn cytuno gyda dull Heddlu Gwent o ymdrin â'r pandemig

3ydd Mawrth 2021

Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn cytuno ag ymateb Heddlu Gwent i'r pandemig coronafeirws yn ôl arolwg gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Roedd yr arolwg yn gofyn i drigolion a oeddent yn cytuno â dull Heddlu Gwent o addysgu ac annog, a dim ond defnyddio camau gorfodi pan mae pob ymdrech arall wedi methu.

Cafwyd ymateb gan 1259 o drigolion, ac roedd 55 y cant yn cytuno mai hwn oedd y dull cywir. Roedd 29 y cant yn anghytuno ac roedd 15 y cant yn ansicr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae plismona pandemig yn eithriadol o gymhleth. Mae rhai trigolion yn teimlo'n gryf iawn y dylai'r heddlu gymryd camau gweithredu mwy cadarn, ac mae eraill yn anghytuno â'r cyfyngiadau ac yn credu na ddylid cael unrhyw gamau gorfodi.

"Mae wedi bod yn anodd iawn cael cydbwysedd ac mae'r rheolau gwahanol yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn heriol. Fodd bynnag, mae'r arolwg hwn yn dweud wrthym ein bod wedi gweithredu'n gywir ar y cyfan.


“Hoffwn ddiolch i swyddogion Heddlu Gwent am eu hymroddiad a'u gwaith caled, yn rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd er mwyn cadw trigolion yn ddiogel. Hoffwn ddiolch i drigolion hefyd am chwarae eu rhan yn ein helpu ni i leihau lledaeniad y feirws hwn.

Mae Cymru ar lefel rhybudd 4 o hyd ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y gellid llacio cyfyngiadau mewn ychydig wythnosau os yw cyfraddau trosglwyddo'r feirws yn dal i ddisgyn.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rydym mewn lle llawer gwell yn awr nag oeddem ni ar ddechrau'r flwyddyn ac mae'r gwaith o gyflwyno'r brechlyn y mynd yn ei flaen yn dda, ond yr un yw'r cyngor ar hyn o bryd. Dylai trigolion aros gartref cymaint â phosibl a pheidio â theithio oni bai bod hynny'n angenrheidiol. Dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref i'r rhan fwyaf o bobl.

“Daliwch i wrando ar y cyngor gan ffynonellau y gallwch ymddiried ynddynt fel cynghorau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dilynwch y canllawiau, cadwch yn ddiogel a helpwch ni i achub bywydau."