Mae 33 o swyddogion newydd yr heddlu wedi ymuno â rhengoedd Heddlu Gwent

25ain Mawrth 2022

Mae 33 o swyddogion newydd yr heddlu wedi ymuno â rhengoedd Heddlu Gwent yn dilyn gorymdaith cwblhau hyfforddiant yng Nghasnewydd yn gynharach heddiw.

 

Mae'r grŵp yn cynnwys y swyddogion-myfyrwyr diweddaraf i ymuno drwy'r fframwaith cymwysterau addysgol plismona (PEQF).

 

Mae'r PEQF yn rhoi cyfle i ymgeiswyr astudio am gymhwyster academaidd, gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wrth ymgymryd â'u hyfforddiant heddlu.

 

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd:

 

“Mae'r recriwtiaid newydd wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod eu hyfforddiant ac mae’n rhaid canmol yr ymrwymiad a'r ymroddiad y maent wedi'u dangos.

 

"Rwy'n falch ein bod ni heddiw yng Ngwent mewn sefyllfa well o lawer na phan gefais i fy ethol am y tro cyntaf yn 2016, gyda mwy na 300 o swyddogion yr heddlu ychwanegol nawr yn gwasanaethu ein cymunedau.

 

"Mae ychwanegu’r swyddogion newydd hyn at dimau heddlu ledled Gwent i'w groesawu ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd newydd."

 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly:

 

"Yn Heddlu Gwent, rydym yn cael ein hysgogi i amddiffyn a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Bydd y swyddogion newydd hyn, sy'n dod ag amrywiaeth o sgiliau gyda nhw, yn gweithio gyda ni i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.

 

"Mae plismona'n ymwneud â gwasanaeth cyhoeddus a dyletswydd, a bydd y swyddogion newydd hyn yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o gadw trigolion ledled

 

Gwent yn ddiogel. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt yn eu gyrfaoedd ac astudiaethau parhaus."

 

Mae’r 33 o swyddogion newydd yn Heddlu Gwent yn ymuno â deg swyddog cymorth cymunedol yr heddlu a fynychodd eu gorymdaith cwblhau hyfforddiant yn gynharach y mis hwn.

 

https://twitter.com/GwentPCC/status/1502287454367514628?s=20&t=gMIQmj2eXznaldp6rA7swg

 

Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent yn chwilio am gwnstabliaid heddlu newydd i ymuno â'u timau plismona yng Ngwent.

 

Os ydych chi wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ac eisiau helpu i gadw Gwent yn ddiogel, maen nhw eisiau clywed gennych chi. Ewch i

 

https://policejobswales.tal.net/vx/mobile-0/appcentre-Gwent/brand-0/candidate/so/pm/6/pl/16/opp/2868-Gwent-Police-Constable-March-2022/en-GB?utm_source=Twitter&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo i gael rhagor o wybodaeth.