KidCare4U

22ain Hydref 2021

Yn ddiweddar aeth fy nhîm i ymweld â KidCare4U yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli i weld sut mae fy nghronfa gymunedol yn cael ei defnyddio i redeg clwb dydd Sadwrn i blant lleol.

Yn ogystal â chynnal gweithgareddau ac annog pobl ifanc i gadw’n iach, datblygu eu hyder a gwneud ffrindiau, mae’r clwb yn darparu cymorth addysg ychwanegol i’r rhai sydd ei angen. Mae staff a gwirfoddolwyr yn dod o’r ardal leol.

Nid yn unig mae’r prosiect hwn yn cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddyn nhw ei wneud, bydd y gefnogaeth ehangach sy’n cael ei chynnig i bobl ifanc Pilgwenlli a’u teuluoedd o fudd hirdymor iddyn nhw.

I gael rhagor o fanylion am sut mae fy nghronfa gymunedol o fudd i blant a phobl ifanc ledled Gwent, ewch i dudalen y gronfa gymunedol ar y wefan.