Helpwch i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol noson Calan Gaeaf

27ain Hydref 2023

Mae Calan Gaeaf yn gallu bod yn un o'r nosweithiau prysuraf yn y flwyddyn i'r gwasanaethau brys.

Yn draddodiadol mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau ar noson Calan Gaeaf o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, pobl yn camddefnyddio tân gwyllt, a thanau bwriadol.

Gofynnaf yn daer ar rieni a gwarcheidwaid i siarad am y materion yma a helpu pobl ifanc i ddeall y difrod maent yn gallu ei achosi i gymunedau.

Mae digonedd o ffyrdd i fwynhau Calan Gaeaf ac mae gweithgareddau wedi'u trefnu'n cael eu cynnal ledled Gwent, felly dathlwch yn ddiogel ac yn ystyriol eleni.

Mae Heddlu Gwent wedi cynhyrchu pecyn gweithgareddau hefyd i ddiddanu plant llai.