Helpwch i gadw ffyrdd Gwent yn ddiogel

6ed Chwefror 2023

Mae ymgyrch DRIVE  newydd Heddlu Gwent yn eich galluogi chi i riportio unrhyw un rydych chi’n amau sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn ddienw. 

Anfonwch neges destun DRIVE at 66777 gyda chymaint â phosibl o'r wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad
  • Amser
  • Gwneuthuriad a model y cerbyd
  • Enw'r gyrrwr
  • Rhif plât

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

Yn anffodus, mae Heddlu Gwent wedi gorfod mynd i leoliad nifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd marwol dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd wedi cael eu hachosi'n uniongyrchol gan bobl dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Mae'r gwasanaeth yma’n ffordd gyflym a hawdd i gadw'r ffyrdd yn fwy diogel. 

Dysgwch fwy