Heddlu Gwent yn sicrhau £673,000 o arian ychwanegol i gadw cymunedau'n ddiogel

5ed Hydref 2021

Mae Heddlu Gwent wedi derbyn dros £673,000 o arian ychwanegol i helpu i gadw cymunedau Casnewydd a'r Fenni yn ddiogel.

Bydd y £673,181 o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a gwella'r ymdeimlad o ddiogelwch mewn mannau cyhoeddus. Mae cyllid o £395,225 wedi cael ei neilltuo i wardiau Stow Hill a Victoria yng Nghasnewydd a bydd wardiau Grofield a'r Priordy yn Y Fenni yn derbyn £227,956 ychwanegol i wella diogelwch yn y gymuned.

O holl luoedd heddlu Cymru, Gwent sydd wedi derbyn y swm mwyaf yn nhrydedd rownd y Gronfa Strydoedd Saffach.

Yn rhan o'r mesurau bydd rhaglen addysg yn cael ei darparu mewn ysgolion, prifysgolion a busnesau lleol i helpu i newid agweddau ac ymddygiad annerbyniol tuag at fenywod a merched, rhoi cyngor ar ddiogelwch ac annog pobl i riportio troseddau.

Bydd cynllun busnes man diogel yn cael ei sefydlu ar gyfer busnesau lleol er mwyn iddynt allu darparu man diogel lle gall menywod a merched gael cymorth a chefnogaeth.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod mwy o oleuadau stryd a bolardiau golau, camerâu CCTV gan gynnwys camerâu cudd, a giatiau ar lwybrau mewn ardaloedd sydd â phroblem.

Bydd gwarcheidwaid diogelwch cymunedol ar batrôl yn tawelu meddwl y cyhoedd o gwmpas canol dinas Casnewydd a chanol tref Y Fenni.

Bydd yr arian yn helpu i fynd i'r afael â throseddau fel dwyn, troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn ein cymunedau. Wrth ystyried y darlun cenedlaethol presennol mae'r cyllid hwn yn gyfle amserol i ni wneud ein cymuned yn fwy diogel i ferched a menywod trwy fynd i'r afael â phroblemau heddiw, ac addysgu ein pobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol.

“Gyda'n partneriaid, rydym wedi gweithio'n galed i wella'r ffordd rydym yn ymateb i drais yn erbyn menywod a merched yn barhaus; mae'n flaenoriaeth i ni yma yng Ngwent, bob amser.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae sgyrsiau tyngedfennol yn digwydd yn genedlaethol ynghylch sut i atal pob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched.

"Bydd y cyllid pwrpasol hwn yn helpu Heddlu Gwent a phartneriaid i ddefnyddio dull cyfannol i ymdrin â'r broblem. Bydd yn ein galluogi i fuddsoddi mewn addysg gynnar i godi ymwybyddiaeth o gydberthnasau iach ac ymddygiad annerbyniol, ac i osod seilwaith priodol i helpu i amddiffyn trigolion a rhoi sicrwydd iddynt eu bod yn ddiogel yn eu cymunedau.

"Mae'n bryd i gymdeithas newid. Mae gan blismona ran i'w chwarae ac mae ymgyrchoedd pwrpasol fel hyn yn dangos ein bod wedi ymroi i ateb y broblem.”