Haf o Hwyl gyda gwasanaeth Chwarae Torfaen

5ed Awst 2022

Mae fy nhîm ymgysylltu wedi bod yn brysur yr wythnos hon yn cefnogi gwasanaeth chwarae cyngor Torfaen.

 

Drwy gydol yr wythnos mae’r tîm wedi cyflwyno ystod o gemau hwyl ac ymarferion ymgysylltu i fwy na 500 o blant rhwng 5 ac 11 oed. Bwriad y sesiynau yw cael plant i feddwl am swyddogaeth yr heddlu a sut maen nhw’n teimlo pan fyddan nhw’n gweld swyddog yr heddlu, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth allweddol am ddiogelwch, gan gynnwys sut i gysylltu â’r heddlu, gwregysau diogelwch, peryglon a chanlyniadau defnyddio ffôn symudol wrth yrru ac effaith galwadau ffug ar y gwasanaethau brys.

 

Cymerodd y plant ran mewn gweithgareddau creadigol i helpu fy swyddfa a Heddlu Gwent i ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo am yr heddlu a'r rhinweddau a’r sgiliau yr hoffan nhw eu gweld mewn swyddog.

 

Yr uchafbwynt i lawer oedd cael gwisgo lifrau yr heddlu a chael hwyl gyda’u ffrindiau!

 

Rwyf wedi ymrwymo i roi plant yn ganolog i’n prosesau gwneud penderfyniadau ac mae’r sesiynau hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o ganfyddiad plant o’r heddlu a’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw.