Gŵyl Maendy 2023

7fed Gorffennaf 2023

Roedd yn bleser bod yn bresennol yng Ngŵyl Maendy gyda Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas. 

 

Cawsom gwmni swyddogion o dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gwent a’r tîm cymdogaeth lleol.

 

Cafodd yr ardal y tu allan i Ysgol Gynradd Maendy ei thrawsnewid i fod yn ŵyl brysur a bywiog.

 

Roeddwn wrth fy modd i weld y gymuned yn dod at ei gilydd i gynnal digwyddiad mor bwysig. Daeth pobl o bob oedran at ei gilydd i ddathlu’r digwyddiad blynyddol mewn lle diogel a chroesawgar.

 

Roedd yn wych gweld y gymuned yn elwa ar wybodaeth a chyngor gan amrywiaeth o wahanol sefydliadau.

 

Mae digwyddiadau fel Gŵyl Maendy’n fy ngalluogi i wrando ar gymunedau ac yn fy helpu i ddeall sut mae pobl yn teimlo, sy’n fy helpu i gasglu gwybodaeth am unrhyw broblemau.

 

Rwyf yn gweithredu yn sgil unrhyw bryderon neu broblemau sy’n cael eu lleisio ac yn eu rhannu nhw gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent neu, os nad yw’r mater yn ymwneud â phlismona, gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel cynghorau lleol neu’r bwrdd iechyd.

 

Edrychaf ymlaen at fynd i fwy o ddigwyddiadau yn ystod yr haf. Bydd fy nhîm ym Mharc Pont-y-pŵl a Gŵyl Ieuenctid Y Fenni ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf.