Gwobr i wirfoddolwr o Dorfaen

25ain Hydref 2021

Roeddwn wrth fy modd i noddi Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddol Torfaen eleni.

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y cyfraniad anhygoel mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud yn ein cymunedau trwy gydol y pandemig.

Roeddwn yn falch o noddi’r wobr ‘Siwrnai Bersonol’, a ddyfarnwyd i Chloe Goddard, gwirfoddolwr ar Brosiect Rhiant Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen.

Mae Prosiect Rhiant Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yn sesiwn wythnosol sy’n  canolbwyntio’n benodol ar gefnogi rhieni ifanc yn defnyddio dulliau sy’n cael eu harwain gan ieuenctid i roi sylw i gymorth cymdeithasol, gweithgarwch corfforol, chwarae a lles ar gyfer rhieni a phlant.

Mae Chloe wedi bod yn rhoi cymorth i weithwyr ieuenctid i drefnu a chynllunio’r rhaglen, annog a chefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, rhoi sylw i broblemau fel unigrwydd, diffyg gwaith a chefnogaeth, a hunan-barch.

Trwy ei gwaith gwirfoddoli mae hi wedi tyfu fel person ac rwyf yn falch iawn o glywed y bydd yn datblygu ymhellach yn awr a’i bod wedi bod yn mynychu sesiynau hyfforddiant mewn gwaith ieuenctid. Hoffwn ddiolch iddi am bopeth mae hi wedi ei wneud i rieni ifanc yn Nhorfaen a dymunaf bob hwyl iddi ar gyfer y dyfodol.